Cyfarfu’r Hoelion yn ôl eu harfer ar y nos Fercher diwethaf o’r mis ac estynodd y cadeirydd Robert James groeso arbennig i’r gwr gwâdd sef Tweli Griffiths o Langynog. Newyddiadurwr yw Tweli a bu’n sôn am ei yrfa yn ogystal a’r holl wledydd y bu’n ymweld â nhw drwy ei waith. Daeth yn amlwg wrth wrando arno taw Ethiopia yw’r wlad sydd wedi gadael yr argraff fwyaf arno ac felly yn un o’i hoff lefydd i ymweld â nhw – er yr holl dlodi dywedodd fod y bobl yn hynod groesawgar a hapus. Bu hefyd yn dangos amryw o driciau ar y diwedd a diolchwyd iddo am noson hynod ddiddorol gan Robert. Bu pawb yn mwynhau basned o gawl bendigedig ar y diwedd a diolch i Robert am ei ymborth a’i groeso arferol.