Skip to content

Ebrill 2008

    Yn y cyfarfod ddechrau Ebrill, croesawodd y Cadeirydd, Mr Verian Williams, un o’r aelodau, sef Mr Anthony Thomas a fu’n darllen rhannau o Lyfr ‘Casgliad o Lên Gwerin Sir Gaerfyrddin’ gan y Parchg David Gorllwyn Williams (1859 – 1933). Roedd yr awdur yn enedigol o Benybont, Trelech ac fe enillodd ei draethawd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 1895!