Skip to content

Ebrill 2007

    Cynhaliwyd Eisteddfod lewyrchus yng Nghaffi Beca a bu cystadlu brwd rhwng aelodau o’r gwahanol ganghennau. Cangen Hendygwyn ddaeth yn AIL er bod llawer o’r aelodau wedi cael llwyddiant a John Arfon Jones yn cipio’r Goron. Yng nghyfarfod mis Mai o’r Hoelion Wyth, cafwyd gair gan y Cadeirydd er cof am Leslie Phillips a fu’n aelod ffyddlon. Yna croesawyd y siaradwraig wâdd am y noson, sef Mis Beti Thomas, San Clêr. Cafwyd crynodeb cyflawn o’i hymweliad a gwlad Bangladesh, llyneddd. Diolchodd Eric Hughes iddi ar ddiwedd y cyfarfod.