Skip to content

Dadorchuddio plac i anrhydeddu Delme Thomas

    Cynhaliwyd noson arbennig ym mhentre’ Bancyfelin ar nos Wener, Ebrill 5ed pan ddadorchuddiwyd plac i anrhydeddu Delme Thomas. Daeth cynulleidfa fawr ynghyd tu fas i gapel y pentref i ddangos eu parch i Delme – Brenin Bancyfelin

    Croesawyd pawb ynghyd gan Eurfyl Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth a dywedodd ei fod yn ddydd o lawen chwedl i’r Gymdeithas wrth iddynt anrhydeddu cymeriad chwedlonol. Bu Delme yn serennu i dime rygbi Llanelli, Cymru a’r Llewod yn ystod y chwechdege a’r saithdege gan gyflawni popeth o fewn y gamp. Aeth ar y daith gyntaf o dri gyda’r Llewod cyn iddo hyd yn oed ennill cap i Gymru. Bu hefyd yn gapten ar ei wlad gan ennill 1 Camp Lawn. Mae’n siŵr taw ei lwyddiant mwyaf nodedig oedd arwain tîm Llanelli i fuddugoliaeth o 9 pwynt i 3 yn erbyn tîm Cryse Duon Seland Newydd nol yn 1972 – a hynny o flaen pobol ei hunan.

    Cafwyd araith hyfryd gan Lyn Jones, cyfaill oes i Delme a dilynwyd hyn gan yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards cyn i Delme ddadorchuddio’r plac ac annerch y gynulleidfa. Bu plant Ysgol Bancyfelin yn canu can wedi ei chyfansoddi’n arbennig i gyfarch Delme gan y pennaeth Trefina Jones a diolchwyd yn ddiffuant i bawb gan y Parchedig Beti Wyn James. Diolchodd yn arbennig i Brian Jones, Bwydydd Castell Howell am ariannu’r plac.

    Bu criw Tinopolis yn darlledu rhan o seremoni dadorchuddio’r plac yn fyw ar raglen Heno a buodd Yvonne Evans yn sgwrsio ychydig gyda Delme – gŵr bonheddig a diymhongar

    Darllenodd Eurfyl yr englyn canlynol o waith Wyn Owens, Mynachlogddu wrth anrhydeddu Delme :-

     

    Enillodd tîm Llanelli lawer cais

    Dan law’r cawr. Mae Delme

    Er mawredd grym y Maori

    Yn arwr oes. Llew o fri!