Skip to content

Cyngerdd

    Ar Nos Wener, Hydref 23ain cynhaliwyd cyngerdd dan nawdd y gangen yn Neuadd y Farchnad, Llanboidy. Yr artistiaid oedd Clive Edwards a Chôr Clwb Rygbi Crymych dan arweiniad Glesni Vaughan gyda Jill Lewis yn cyfeilio. Arweinydd y noson oedd Eurfyl Lewis. Cymerwyd rhan gyntaf y cyngerdd gan y Côr; yn ystod hanner amser cafwyd araith bwrpasol gan y Llywydd, Mr John Gibbin, MBE. Diolchwyd iddo am ei rodd hael.

    Yn ail ran y cyngerdd bu Clive Edwards yn diddori’r gynulleidfa yn ei ffordd unigryw.

    Diolchwyd i’r artistiaid am adloniant ardderchog, i aelodau’r gangen am sicrhau noson lwyddiannus, gymdeithasol gyda diolch arbennig i Mel Jenkins am drefnu’r cyfan, heb anghofio gwragedd yr aelodau am baratoi lluniaeth.

     Hoelion 8-HDG-LLun Cyngerdd

    Glesni Vaughan, Eurfyl Lewis, John Gibbin MBE, Clive Edwards a Jill Lewis.