Skip to content

Cyngerdd

    Ar nos Wener, Hydref 27ain cynhaliwyd cyngerdd yn Neuadd y Farchnad, Llanboidy dan nawdd Cangen Hendygwyn.  Y criw fu’n diddanu oedd ‘Parti Camdddwr’ – un deg chwech o fechgyn o ardal Tregaron.  Estynnwyd croeso cynnes iddynt gan Claude James, y Cadeirydd.  Arweinydd y noson oedd un o’u plith, sef Vaughan Evans.

    Cafwyd noson arbennig yn eu cwmni ac eitemau amrywiol gan y parti – unawdau ac adroddiadau.  Llywydd y noson oedd Mr. Colin Johns, F.C.A. – Cyfrifydd o Hendygwyn a diolchwyd iddo am ei rodd sylweddol tuag at yr Achos.  Gwnaed elw o dros £1,100 ar y noson a bydd yr arian yma yn cael ei ddosbarthu i achosion da ar ddechrau’r flwyddyn newydd.

    Diolch yn fawr iawn i Mel Jenkins, y Swyddog Adloniant, am drefnu’r noson ac i wragedd a phartneriaid yr aelodau am baratoi lluniaeth i bawb.

                                                                             Parti Camddwr