Skip to content

Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn cefnogi Ysbyty Arch Noa a Tŷ Hafan.

    Cynhaliwyd noson wych o adloniant dan nawdd Cymdeithas yr Hoelion Wyth gan Bois y Rhedyn o Landdewi Brefi yn nhafarn Ffostrasol yn ddiweddar.

    Yn ystod y noson cyflwynwyd dwy siec o £1000 yr un i Hosbis Tŷ Hafan ac Ysbyty Arch Noa. Yn y llun gwelir Eurfyl Lewis, Cadeirydd y Gymdeithas, ( ac aelode’r Hoelon Wyth ) yn cyflwyno siec i Mia Lloyd o Dremain, llysgennad ifanc Ysbyty Arch Noa.