Skip to content

Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn cefnogi Sefydliad DPJ.

    Bu’n bleser cyflwyno siec o £2000 i Sefydliad DPJ, ar ran Cymdeithas yr Hoelion Wyth, yn ystod ein cyfarfod blynyddol yn Nhafarn Ffostrasol yn ddiweddar. Dyma oedd gorchwyl olaf Eurfyl Lewis fel Cadeirydd, cyn iddo drosglwyddo’r awennau i John Jones y Cadeirydd newydd. Codwyd yr arian drwy gynnal raffl fawr a noson o adloniant yng nghwmni Parti’r Camddwr yng Nghaffi’r Emlyn, Tanygroes.

    Gwelir Eurfyl yn cyflwyno’r siec i Gerwyn Davies o Abergweun, ( un o wirfoddolwyr Sefydliad DPJ) yng nghwmni swyddogion Cymdeithas yr Hoelion Wyth sef Nigel Vaughan ( trysorydd ), John Jones ( Is Gadeirydd ), Calfin Griffiths ( Llywydd ) a Geraint Morgan ( Ysgrifennydd ).