Skip to content

Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru a Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd.

    Cynhaliwyd noson wych o adloniant dan nawdd Cymdeithas yr Hoelion Wyth gan Dafydd Pantrod a Bois Clwb Rygbi Crymych ( dan arweiniad Glesni Vaughan a chyfeiliant Jill Lewis ) yng Nghaffi’r Emlyn Tanygroes yn ddiweddar.

    Yn ystod y noson cyflwynwyd dwy siec o £500 yr un i Ambiwlans Awyr Cymru a Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd. Yn y llunie gwelir Eurfyl Lewis, Cadeirydd y Gymdeithas, Nigel Vaughan ( Trysorydd ) ac Eifion Evans ( Ysgrifennydd ) yn cyflwyno siec i James Cordell o’r Ambiwlans Awyr a Bethan Fflur Roberts o’r Urdd.