Skip to content

Cyfrfod mis Tachwedd

    Cynhaliwyd cyfarfod Mis Tachwedd,Nos Iau yr 11eg yng nghlwb rygbi,Tregaron.Noson yng ngofal Tudor Jones oedd hon.Yn anffodus,methodd y gwr gwadd fod yn bresennol ar y funud olaf,a gorfodwyd Tudor i newid trefniadau ar yr unfed awr ar ddeg.
    Fodd bynnag,llwyddodd yn anrhydeddus,a chafwyd noson arall i’w chofio.
    Gofynnodd Tudor i bob un o’r aelodau ddod ag un eitem ganddynt yr oeddent yn ei drysori,a chafwyd gwledd.Yn wir,gymaint oedd y diddordeb a’r trafod wrth i bob unigolyn gyflwyno ei drysor personol,fel y gallasem fod wedi cynnal dwy noson yn rhwydd.
    Teithiasom o Gymru dros y Byd bron iawn wrth ni gael hanesion platiau,clociauTaid,offer fferm,y ddau ryfel byd,adeiladau,lluniau teuluol,byd y campau,bwmerang o daith y Llewod ,tocyn hedfan ar Concorde,cyhoeddi cynulliad I Gymru,llyfr log Ysgol gynradd a dyddiadur, ffedog o’r wladfa yn nodi capeli yn Nyffryn Camwy i enwi ond rhai !!!!
    Ie,noson arbennig arall,ac efallai syniad i’r canghennau eraill os byddant byth yn chwilio am noson i lanw lle gwag.Mae gan bawb eu trysor yn eu cartrefi,a phob un a stori gwerth ei chlywed tu ol i’r trysor hwnnw.
    Diolchwyd i Tudor am ei weledigaeth funud olaf wych ,ac i bawb am eu trysorau,gan Peredur Evans.
    Cinio Nadolig ar Ragfyr 17eg yng ngwesty’r Talbot am 1.00 fydd ein cyfarfod nesaf,a’r gwr gwadd fydd Y prifardd Dwbl,Gwenallt Llwyd Ifan.

    John Jones (Cadeirydd)