Yn y llun gwelir Eurfyl Lewis ( Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth ) yn cyflwyno siec am £5000 i Ysgol y Cwm Trefelin ym Mhatagonia drwy law Jeremy Wood ( yn wreiddiol o Gymru ond sy’n byw yn y Wladfa erbyn hyn). Hefyd yn y llun mae John Watkin ( fu’n cydlynu’r ymgyrch ers y dechrau ) ac aelodau’r Hoelion Wyth.
Dyma’r drydydd flwyddyn yn olynol i Gymdeithas yr Hoelion Wyth gyflwyno siec am £5000 i ysgol y Cwm, codwyd yr arian drwy ymgyrch gwin Meibion y Mimosa sef drwy werthu gwin
Malbec P15 o Batagonia. Diolch o galon i bawb wnaeth gefnogi’r ymgyrch eleni eto, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth yn fawr iawn.