Skip to content

Cyfarfod Tachwedd 2019

    Pleser o’r mwyaf oedd cael cwmni Terwyn Tomos o Landudoch i’n cyfarfod misol. Croesawyd ef gan ein Cadeirydd, Eifion Evans. Soniodd am y tri lle pwysig iddo a hynny drwy ddangos lluniau ar daflunydd.  Y lle cyntaf oedd ardal dalgylch y Frenni Fawr. Cafodd ei eni mewn bwthyn bach anghysbell Penllain ger Bwlchygroes ac ar ôl colli ei dad yn ifanc, symudodd y teulu i fyw i’r Star.  Mynychodd ysgol gynradd Bwlchygroes ac yna ysgol y Preseli cyn mynd i brifysgol i hyfforddi fod yn athro.

    Ar ôl graddio a dysgu am dua ddwy flynedd i ffwrdd o’i ardal enedigol daeth y cyfle i gael swydd dysgu yn Llandudoch ac mae wedi byw yno ers 1974. Felly Llandudoch a’r ardal gyfagos oedd yr ail le pwysig yn ei fywyd. Siaradodd ychydig am hanes y pentref, oedd hyd ddechrau’r ganrif ddiwethaf yn bentref oedd yn dibynnu yn fawr iawn ar waith morwrol. Bu’n sôn am y Wyrcws yng Nghastell Albro ac am adfeilion yr Abaty hynafol a adeiladwyd yn 12fed ganrif. Soniodd am ei ddyheuad o gael ffynhonnell ariannol i ail osod rai o gerrig  gwreiddiol yr abaty,  sydd ar hyn o bryd yn cael ei storio mewn sied yn lleol. Terwyn oedd golygydd cyntaf papur bro Clebran a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn Rhagfyr 1974 – papur pedair tudalen am bris o bum ceiniog oedd ar y pryd!

    Ei drydydd lle pwysig yw’r Wladfa ym Mhatagonia a bu’n sôn am yr holl brofiadau difyr cafodd wrth deithio o gwmpas gan ymweld â llefydd rydym wedi clywed amdanynt adre yma yng Nghymru. Soniodd hefyd am gynhesrwydd y brodorion a’u caredigrwydd a’r prydiau bwyd swmpus o gig a ddarparwyd iddo.

    Cafwyd noson ddifyr yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Eifion Evans a Iori Thomas –  un a fagwyd yn yr un ardal a Terwyn.  Darparwyd cawl blasus ar ein cyfer a diolch unwaith eto i Rob am ei wasanaeth ac am gael defnydd y caffi ar gyfer ein cyfarfodydd.