Skip to content

Cyfarfod Medi 2016

    Ar ddechrau’r tymor newydd croesawyd aelod newydd i’r gangen, sef Leonord Tŷ Cwta, ynghyd â chroesawu Lawrence nôl atom ar ôl cyfnod o dostrwydd. Cydymdeimlwyd hefyd gyda Robert sydd newydd golli ei dad.

    Cyflwynwyd y siaradwraig wadd sef Y Parchedig Carys Ann, Penrhiwpal sydd wedi bod yn weinidog yn ne Ceredigion ers 29 mlwyddyn ond yn wreiddiol o Benygroes, Dyffryn Nantlle.

    Testun ei chyflwyniad oedd Profiadau ‘hileriws’ ers dechrau ei gweinidogaeth.

    Dechreuodd drwy nodi un camgymeriad ieithyddol a ddigwyddodd yn fuan wedi iddi symud i’r ardal. Wrth ymweld ag aelodau o’i chapel dyma wraig y tŷ yn gofyn iddi ble oedd wedi parcio’r car? Atebodd hithau ei bod wedi parcio ‘ar y lôn tu allan.’  Dyma wraig y tŷ yn poeni ac yn pryderu gan bod ei gŵr yn meddwl y byd ac yn ofalus iawn am eu lawn (lawnt)!

    Disgrifiodd sawl profiad amhleserus o gael te neu fwyd gydag aelodau gyda’r tsiena gorau wrth gwrs yn cael eu tynnu allan o’r cwpwrdd cornel a chael eu defnyddio heb eu golchi! Roedd un achlysur hefyd pan ddaeth clust cwpan i ffwrdd yn ei llaw gan greu ‘llanast’. Ychwanegodd ei bod wedi cael cynnig cawl mewn powlen annymunol unwaith ond roedd hi’n ‘llawn’ y diwrnod hynny a ni fwytawyd y cawl y tro hwn!

    Nid ydy Carys yn hoff iawn o gŵn ond yn anffodus mae rhan fwyaf o’r aelodau yn berchen ar y creaduriaid. Ar un achlysur fe wnaeth corgi ddwyn ei hesgid a’i dinistrio ac ar achlyslur arall fe wlychwyd ei choes gan gi bach, oedd wedi codi ei goes arni! Roedd anifail arall wedi creu trafferth iddi hefyd. Derbyniodd focsed o afalau wrth un aelod a’i roi yn ‘boot’ y car. Pan dynnodd y  bocs o‘r  ‘boot’ yn ddiweddarach sylwodd bod sawl afal yn dangos marciau bychan fel tasen nhw wedi cael eu bwyta gan rywbeth?  Rhai diwrnodau yn ddiweddarach eto, wrth iddi deithio i bregethu i Ddolgellau, ymestynodd am gadach o ochr y drws a sylwodd bod y cadach yn symud! Yno roedd llygoden fechan. Cafodd dipyn o ofn ac nid oedd llawer o chwant pregethu arni ar ôl y profiad.

    Atgoffodd ni ei bod hi’n ofynnol i weinidog deithio o un capel i’r llall, yn aml iawn heb lawer o amser i wneud hynny. Cofiodd am un siwrne penodol a wnaeth o Danygroes i Flaenannerch. Roedd wedi ei gadael hi braidd yn hwyr ac o ganlyniad yn goryrru ychydig.  Yn anffodus cafodd ei stopio gan yr heddlu a dyma glamp o heddwas Saesneg ei iaith yn mynnu dangos iddi’r cyflymder roedd yn teithio tra’r oedd hithau’n ceisio dweud wrtho, ‘Just give me the ticket as I’m going to be late for a service.’

    Dywedodd nad oedd hi’n hoff o siarad Saesneg ond ei bod wedi cael ei pherswadio i siarad â grŵp o bobol dramor oedd yn cynrychioli’r ‘Council World Mission’. Wrth gyflwyno’r profiadau dywedodd y stori am y cwpan yn torri drwy ddweud bod ‘the ear of the cup came off in my hand.’ Roedd y criw wedi cael tipyn o hwyl wrth ei gwrando arni’n straffaglu gyda’r iaith fain a dywedodd un ddynes wrthi, ‘That’s the best thing that’s happened to us during our visit to your country’

    Gallwn ninnau hefyd ddweud ein bo ni wedi cael noswaith hyfryd o ddigrifwch a chwerthin yn ei chwmni. Diolchwyd iddi gan Ken  a ddywedodd ein bod wedi cael dechreuad arbennig i’r tymor. Ategwyd y diolch gan Huw a dangoswyd ein gwerthfawrogiad i Rob am baratoi cawl ar ein cyfer mewn powlenni glân!

     

                                                                                                carys-ann