Skip to content

Cyfarfod Mawrth 2023

    Cyfarfu aelodau Hoelion Wyth Beca ar nos Fercher, Mawrth 29ain yng Nghaffi Beca, Efailwen yn ôl eu harfer. Croesawyd pawb ynghyd gan y Cadeirydd Eifion Evans, cyn iddo groesawu’r gŵr gwadd sef Meic Thomas o Hwlffordd. Cafodd Meic ei eni a’i fagu yn Hendy Gwyn ar Dâf ac roedd yn briodol iawn taw Abaty Hendy Gwyn oedd testun ei gyflwyniad.

    Bu Meic yn perfformio ymgom mewn llais William ap Thomas, Abad olaf Abaty Hen Dy Gwyn ar Daf. Ysbrydolwyd Meic gan ddarlith ar-lein am y Sistersiaid, gan yr Athro Janet Burton o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, yn ystod y cyfnod clo. Ar ôl gwneud peth ymchwil ei hun, penderfynodd Meic ddweud yr hanes ar ffurf ‘ymgom’ mewn ymdrech i ddod a blas dynol i’r stori. Roedd Meic wedi gwisgo lan fel abad er mwyn dod a’r hanes yn fyw o flaen ein llygaid. Roedd diddymu Abaty Hen Dy Gwyn yn ogystal ag Abatai eraill yn ddigwyddiad hanesyddol tyngedfennol yn hanes Cymru. Yn ystod yr ymgom, clywsom am natur yr Urdd Sistersaidd a’i ddylanwad lleol, cenedlaethol, a rhyngwladol. Rhoddwyd cryn sylw hefyd i hynt yr Abaty yng nghyd destun y gwrthdaro rhwng tywysogion Cymreig a’r Eingl Normaniaid. Cafwyd cyfle i holi cwestiynau i Meic ar ddiwedd ei gyflwyniad a diolchodd Eifion yn gynnes iawn iddo am noson arbennig iawn.

    Bu pawb yn mwynhau basned o gawl bendigedig Robert cyn mynd am adref.