Skip to content

Cyfarfod Mawrth 2017

    Ein siaradwr gwadd yng nghyfarfod Mis Mawrth oedd Martin Roberts o Groesgoch. Croesawyd ef a’i gydweithwraig Sarah Griffiths yn gynnes gan y cadeirydd Nigel Vaughan. Cafodd Martin ei fagu yn ardal Llandysilio a merch o ardal Castellaidd ydi Sarah. Mae Martin yn gyn prifathro yn ysgol Uwchradd Dewi Sant, Tŷ Ddewi ac ers iddo ymddeol mae wedi bod yn gweithio  i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ers pedair blynedd.  Mae’n gweitho ar safle’r fryngaer o’r oes haearn Castell Henllys a thestun ei gyflwyniad oedd hanes a datblygiad y safle yma sydd rhwng Eglwyswrw a Felindre Farchog.

    Mae Martin yn un o dîm addysg y safle ac yn gwisgo mewn dillad o’r oes haearn ac yn cael ei adnabod fel ‘Brian Y Coedwigwr’. Esboniodd bod llawer iawn o blant ysgol gynradd yn dod i’r safle yn gyson. Mae’r plant yn cael ei rhannu i grwpiau er mwyn cymryd rhan mewn amryw weithgaredd, e.e. gwneud bara, basgedi, gwaith adeiladu ac ymarfer ymladd.

    Mae Castell Henllys yn le poblogaeth ac wedi denu 24 mil o ymwelwr o bob cwr o’r byd y llynedd. Mae hefyd wedi ennill gwobr arbennig am safleoedd treftadaeth addysgiadol, sef gwobr Sandford

    Cafwyd noson ddiddorol dros ben yng nghwmni Martin a Sarah a diolchwyd iddynt yn ddiffuant.  Cafwyd basned o gawl bendigedig yn ôl yr arfer gan Rob i gloi noson hyfryd a diolch iddo am ei wasanaeth.