Skip to content

Cyfarfod Ionawr 2024

    Cynhaliwyd ein cyfarfod misol ar nos Fercher, Ionawr 31ain, yng Nghaffi Beca fel arfer. Croesawyd pawb ynghyd gan Eifion Evans, y cadeirydd cyn iddo gyflwyno gwr gwadd y noson sef Mike Davies, cyn bennaeth Ysgol y Preseli, Crymych ac Ysgol Caer Elen, Hwlffordd.

    Testun araith Mike oedd “Atgofion gyrfa ym myd addysg a pel droed”. Soniodd ar y dechrau taw’r athro wnaeth ddylanwadu fwyaf arno yn Ysgol Ramadeg Llandysul oedd yr athro daearyddiaeth. Dyma chi athro oedd bell o flaen ei amser fu’n defnyddio cyfrwng sleidiau, ffilmiau, cynnal gwaith maes lleol, yn ogystal a trefnu teithiau tramor, tra bod athrawon arall yn defnyddio bwrdd du yn unig fel adnodd. O ganlyniad i ddylanwad yr athro, penderfynodd Mike astudio daearyddiaeth yn y Brifysgol. Tra yn y Brifysgol, bu’n chwarae i’r tim pel droed a gafodd lwyddiant ysgubol yn ystod ei gyfnod yno – daethant yn Bencampwyr Prifysgolion Prydain yn 1980 a gwnaeth Mike hefyd gynrychioli tim pel droed Prifysgolion Cymru a chwarae yn erbyn timau Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon. Aeth hefyd ar daith bythgofiadwy i Bucharest gyda Prifysgol Aberystwyth – profiad anhygoel i griw o fyfyrwyr gan fod 15,000 o bobol yn gwylio hwy yn chwarae! Gwnaeth gyfaddef bod pel droed wedi cael blaenoriaeth ar ei astudiaethau ar rai adegau!

    Wedi graddio, cafodd Mike ei benodi yn athro daearyddiaeth yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug. Un arall fu’n ddylanwad mawr arno oedd pennaeth yr ysgol honno, sef y diweddar Aled Lloyd Davies. Dyn y pethe, gwr bonheddig, anogwr heb ei ail, fu’n treulio amser gyda’r athrawon ifanc yn eu harwain, eu cynghori a’u hysbrydoli.

    Cafodd Mike ei benodi yn athro daearyddiaeth yn Ysgol y Preseli yn 1986 a gwnaeth ffawd alluogi Mike i barhau i chwarae pel droed i Aberystwyth, wrth iddynt symud o chwarae yng Nghyngrair y Canolbarthi i Gynghrair y De ar yr union adeg. Y trydydd person a ddylanwadodd yn fawr arno oedd Martin Lloyd, fu’n bennaeth Ysgol y Preseli o 1991 – 2008. Martin fu’n gyfrifol am annog Mike i ddilyn cyrsiau pwysig, rhoi cyfle iddo arwain ac yn bennaf am roi’r hunan gred iddo ei fod yn gallu gwneud y swydd. Yn ystod ei gyfnod yn Ysgol y Preseli, daeth yn bennaeth adran, dirprwy bennaeth ac yn dilyn ymddeoliad Martin, yn bennaeth ar yr ysgol.

    Rhannodd nifer o straeon difyr gyda ni am deithiau pel droed i wylio tim Cymru, teithiau pel droed Mondial Pupilles yn Llydaw, teithiau undydd a teithiau daearyddiaeth i Wersyll Glan-Llyn – dwedodd bod gweithgareddau allgyrsiol yn rhan allweddol o fywyd Ysgol a bod y disgyblion yn cofio mwy am y teithiau hynny, na’r gwersi!

    Bu Mike hefyd yn bennaeth gweithredol ar Ysgol Caer Elen, Hwlffordd pan agorodd yr Ysgol yn 2018 a gwnaeth yntau osod seiliau cadarn iddi o’r cychwyn.

    Diolchodd Eifion i Mike am noson arbennig iawn a cafwyd cyfle ar y diwedd i holi nifer o gwestiynau iddo. Roedd yn hyfryd croesawu dau aelod newydd sef Brian Edwards ac Andrew James i’n plith. Bu pawb yn mwynhau basned o gawl bendigedig ar ddiwedd y noson, diolch i Robert am ei groeso arferol.