Skip to content

Cyfarfod Hydref 2021

    Wedi llwyddiant y trip ym mis Medi,roedd hi’n braf dychwelyd i westy’r Talbot am gyfarfod cyntaf y tymor ar ol egwyl o dros ddeunaw mis,i gynnal cymdeithas unwaith yn rhagor.

    Daeth gwestai cyntaf y tymor o’n plith ni ein hunain,sef un o’n haelodau gwreiddiol,Vaughan Evans.Nid oedd angen cyflwyno Vaughan i neb o’r aelodau gan fod pawb yn bresennol yn ei adnabod yn dda,ac yn gyfarwydd a’i gyfraniad cyfoethog i’w filltir sgwar dros gyfnod o flynyddoeedd maith.Ef oedd y pennaeth ieuangaf erioed i gael ei apwyntio pan ddyrchafwyd e i ysgol Penuwch,ac yntau’n dal yn ei ugeiniau cynnar.Wedi blynyddoedd o wasanaeth clodwiw i’r ysgol,symudodd yn bennaeth ar Ganolfan Addysg Felinfach,cyn ymddeol yn ifanc.Bu ei gyfraniad yn fawr i ddiwylliant yr ardal-o chwarae pel droed i dim Ser Dewi,i’r capel,eisteddfodau,Y papur bro a chymdeithasau lu.Os ymladdodd rhywun erioed dros yr iaith Gymraeg a’i diwylliant,yn sicr Vaughan oedd hwnnw,ac mae’n parhau i wneud hyd heddiw.

    Cyflwynodd Vaughan gwis diddorol ac addysgiadol -o rowndiau cyffredinol i adnabod lluniau wynebau cyfarwydd a mannau adnabyddus yng Nghymru,ond y rownd a wnaeth ein cyfareddu oedd rhoi ystyr i hen ddywediadau bachog sy’n prysur ddiflannu o’n hiaith.Gosodwyd limerig hefyd ar gychwyn y noson,gyda’r trysorydd,Geraint Morgan yn ennill.

    Yn naturiol,yng ngwir draddodiad Hoelion Cors Caron,roedd yn rhaid cael cystadleuath rhwng 2 dim,ac ar ddiwedd y noson gwelwyd gorfoledd tim Charles Arch wedi iddynt ennill o 59 o farciau i 55 yn erbyn tim hynod siomedig Tudor Jones ar ol iddynt glywed y sgor!!!!

    Diolchwyd i Vaughan am noson hyfryd gan John Meredith.

    Tudor Jones sy’n gyfrifol am drefnu cyfarfod Tachwedd,ac edrychwn ymlaen yn eiddgar am noson ddifyr arall.

    John Jones (Cadeirydd)