Skip to content

Cyfarfod Ebrill

    Ein siaradwr gwadd ym mis Ebrill oedd Edward John o Langynnwr a chroesawyd ef gan ein cadeirydd Eifion Evans. Bachgen o Hendy-gwyn ar Dâf yw Edward yn wreiddiol a mynychodd yr ysgol gynradd yno cyn mynd i Ysgol Bro Myrddin ac yna i Goleg Prifysgol Caerdydd i hyfforddi fod yn fferyllydd. Ar ôl gweithio am ychydig gyda Boots yn ei gyfnod blaen-gofrestru sylweddolodd bod diddordeb gydag e mewn cyfraith fferyllol. Bu’n gweithio yn galed am flwyddyn ym Mryste i ennill gradd arall yn y maes hwn.

    Aeth nôl i weithio gyda Boots yn gwneud amryw ddyletswyddau yn cynnwys rheoli fferyllfeydd a chyd weithio ar brosiect meddalwedd cyfrifiadurol ar gyfer rheoli stoc.

    Cymerodd amser allan i deithio Awstralia, Seland Newydd a Thailand. Yn ystod y cyfnod hwn penderfynodd mai ei fryd oedd ar berchen ei fferyllfa ei hun. Yn ffodus daeth busnes y fferyllydd David Morgan yng Nghlunderwen ar gael ond rhaid oedd chwilio am adeilad arall gan fod Mr Morgan am gadw’r adeilad lle’r oedd yn byw. Daeth cartref y diweddar Jimmy Morgan ar werth a phrynodd hwn ar gyfer y busnes.

    Mae Edward wedi bod yno ers tua blwyddyn erbyn hyn ac mae wedi mynd ati yn frwd i wneud y busnes yn un gymunedol. Mae’n llogi dwy ystafell o’r adeilad i arbenigwyr sy’n cynnig  amryw o driniaethau fel profi clyw, glanhau’r clustiau, ffisiotherapi a thriniaeth traed. Mae Edward hefyd yn cynnig gwasanaeth clinigol ar gyfer sawl afiechyd cyffredin.  Creda’n gryf bod y fferyllfa yn gallu tynnu pwysedd oddi ar ganolfannau meddygol.

    Mwynhaodd bawb y noson ddiddorol a diolchwyd iddo gan Eifion a Tudur.  Diolch arbennig hefyd i Robert am ddefnydd y caffi ac am ddarparu cawl fel arfer.