Skip to content

Cyfarfod Ebrill 2017

    Pleser oedd cael croesawu bachgen lleol atom i siarad yn ein cyfarfod olaf o’r tymor ar nos Fercher Ebrill 26ain. Robert Davies oedd y gŵr gwadd, bachgen wedi ei fagu o fewn dwy filltir i Gaffi Beca ar fferm Pencerrig. Yn fab i un o’m haelodau ffyddlon, Iorwerth a’i wraig Rhiannon. Mae Robert yn filfeddyg ac erbyn hyn yn un o gyfarwyddwyr y cwmni milfeddygaeth, Allen & Partners, Hendy-gwyn a’r Daf.

    Mynychodd yr ysgol gynradd leol cyn mynd ymlaen i Ysgol y Preseli, lle y teimlodd na chafodd yr anogaeth i ddilyn yr yrfa hon. Dywedwyd wrtho nad oedd un cyn-ddisgybl wedi mynd ymlaen i fod yn filfeddyg yn flaenorol.  Roedd clywed hyn wedi ei wneud yn fwy penderfynol byth i lwyddo.

    Pan yn blentyn ar y fferm, yr anifeiliaid oedd ei ddiddordeb pennaf. Tra’r roedd y rhan fwyaf o’i gyfeillion yn hoffi tractorau a pheiriannau eraill, yr anifeiliaid oedd yn cael y flaenoriaeth gan Robert. Ar ôl gadael Ysgol y Preseli aeth Robert ymlaen i raddio, yn gyntaf mewn cwrs ‘Animal Science’ cyn cael ei wahodd i wneud gradd mewn milfeddygaeth yng Ngholeg Prifysgol Langford, Bryste.

    Ar ddechrau ei gyflwyniad fe ddangosodd dri darn o offer sy’n cael ei ddefnyddio gan filfeddyg a gofynnwyd i ni ddyfalu beth oedd eu defnydd.  Offer oeddynt ar gyfer trin gwahanol bethau mewn ceffylau. Adroddodd sawl stori am ei brofiadau doniol a difrifol gan ychwanegu bod Sebra yn gallu bod yn anifail cas i’w drin. Nododd hefyd bod perchnogion yr anifeiliaid hefyd yn gallu bod yn dipyn o her!  Gorffennwyd y noson drwy sesiwn cwestiynau ac atebion a chafwyd sgwrs ddiddorol am y dyclein (TB) sydd gymaint o broblem i amaethwyr yng ngorllewin Cymru.

    Diolchwyd yn ddiffuant i Robert gan Russel Evans. Fel arfer darparwyd cawl blasus ar ein cyfer a diolch unwaith eto i Rob am ei wasanaeth ac am gael defnydd y caffi ar gyfer ein cyfarfodydd.

     

     

     

     

    Neges i’r aelodau wrth y Cadeirydd.

    Mae fy nghyfnod o bedwar tymor fel Cadeirydd wedi dod i ben a hoffwn ddiolch i chi gyd am eich cefnogaeth, eich presenoldeb a’ch parodrwydd i gyd-weithio. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Eurfyl am drefnu bod siaradwyr diddorol gyda ni bob mis, tasg sy’n gallu bod yn un digon anodd dwi’n siŵr. Dymunaf bob lwc i’m holynydd.

    Nigel