Skip to content

Cyfarfod Ebrill 2015

    Y siaradwyr gwadd yn ein cyfarfod Mis Ebrill oedd Y Parchedig Jill Hailey Harries. Cyflwynwyd hi i’r aelodau gan y Cadeirydd. Eglurodd Jill y byddai’n siarad am ei gwaith gwirfoddol o fod yn “Street Pastor” neu Fugail Y Stryd.
    Cyn dechrau ei chyflwyniad fe wnaeth Jill ddarllen darn o lythyr Paul at y Phillipiaid a oedd yn pwysleisio y dyle pawb helpi bobol llai ffodus. Yn ystod y cyflwyniad diddorol nododd mai dim ond Cristnogion sydd ag hawl i wneud y gwaith ar hyn o bryd ac y bod rhaid iddynt fynd o gwmpas y gwaith yn dri. Dywedodd bod y gwaith yn hollol wirfoddol ac y bod rhaid iddynt dalu £200 am yr hyfforddiant. Mae’n ofynnol hefyd bo’r grŵp o dri yn grŵp cymysg ei rhiw, does dim hawl fod yn dair merch neu yn dri dyn. Soniodd am amryw o’i phrofiadau wrth ddelio gyda phobol o bob oedran ar Stryd Wind a Ffordd y Brenin sef prif strydoedd Clybiau nos Abertawe. Mae’r gwaith yn dechrau drwy gwrdd gweddi gan amlaf tua 10 yr hwyr a gall yr amser ar y stryd bara tan 4 y bore ar rai achlysuron arbennig. Yn ystod ei chyflwyniad daeth yn hollol amlwg ei bod yn frwdfrydig iawn wrth ei gwaith. Bu Jill yn ateb sawl cwestiwn ac roedd yn amlwg fod pawb wedi mwynhau ei chyflwyniad.
    Diolchwyd iddi gan Huw Griffiths ac ategwyd at hynny gan y Cadeirydd Nigel Vaughan. Diolch hefyd i Rob am baratoi cawl ar gyfer Jill a’r aelodau.

    Jill – Rhosyn rhwng y drain

    Jill HH