Skip to content

Cyfarfod Ebrill

    Cyfarfu aelodau Hoelion Wyth Beca, yn ol ein harfer yng Nghaffi Beca, Efailwen, a hynny ar nos Fercher, Ebrill 27ain.

    Ein gwr gwadd oedd Stephen James, Clunderwen ac estynodd Eurfyl Lewis groeso cynnes iddo, yn absenoldeb y Cadeirydd Eifion Evans.

    Bu Stephen yn Lywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ( NFU Cymru ) am dau dymor, o 2014 – 2018, a dyma’n bennaf oedd testun ei anerchiad. Esboniodd taw ei brif ddyletswyddau fel Llywydd oedd bod yn lais i’r diwydiant amaethyddol gan hefyd lobio’r Llywodareth a’r Senedd yn gyson. Bu’n son am yr holl heriau a’r trafferthion mae ffermwyr wedi gorfod dygymod a hwy dros yr ugain mlynedd a mwy diwethaf, megis clwy’r traed a’r genau, diciau, BSE, ac ar hyn o bryd Brexit, Covid a rhyfel Wcrain.

    Bu Stephen yn lefarydd yr Undeb ar diciau mewn gwartheg ac esboniodd bod y diciau dal yn broblem enbyd yn y broydd hyn. Mae lle i ofni bydd y sefyllfa’n gwaethygu eto, gwaetha’r modd.

    Cafodd ei apwyntio’n gadeirydd WAHWFG Llywodraeth Cymru ( Grwp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ) yn 2018, a bydd e’n gweithredu fel cadeirydd am dros dwy flynedd eto.

    Cafodd yr aelode gyfle i roi eu barn a’u sylwadau ar nifer o faterion bu Stephen yn son amdanynt a gwerthfawrogwyd hyn yn fawr iawn.

    Diolchodd Eifion Griffiths, yn ddiffuant i Stephen, am noson wych a bu pawb yn cymdeithasu ymhellach wrth fwynhau basned o gawl. Diolch o galon i Robert am yr arlwy ac am ei groeso arferol, gwerthfawrogwn y cyfan yn fawr iawn.

    Taith Ddirgel

    Bu rhaid gohirio’r daith ddirgel oedd fod I’w chynnal ar Mai 21ain ond y bwriad nawr yw ei chynnal ar ddechrau mis Medi.