Skip to content

Cyfarfod Chwefror 2022

    Cyfarfu aelodau Hoelion Wyth Beca, yn ol ein harfer yng Nghaffi Beca, Efailwen, a hynny ar nos Fercher, Chwefror 23ain.

    Ein gwr gwadd oedd Aled Davies, Clunderwen ( Aled Babiog ) ac estynodd Eifion Evans, y Cadeirydd, groeso cynnes iddo. Cafodd Aled yrfa lwyddiannus gyda Heddlu Dyfed Powys, cyn ymddeol yn ifanc rai blynyddoedd nol.

    Cawsom hanes ei waith gyda’r heddlu ond canolbwyntiodd ei anerchiad yn benodol am ei brofiad yn rhan o’r tim fu wrthi’n datrys llofruddiaethau Shir Benfro. Esboniodd sut cafodd John Cooper ei ddal a’i ddedfrydu am lofruddio Richard ac Helen Thomas,  brawd a chwaer fu’n byw ym Maenor Scoveston, yn ogystal a Peter a Gwenda Dixon, gwr a gwraig o Rydychen, ddaethpwyd o hyd i’w cyrff ar lwybr yr arfordir gerllaw Little Haven.

    Soniodd Aled am y broses manwl a chymleth o gasglu tystiolaeth, mewn dyddiau lle roedd technoleg fforensig yn gyntefig iawn. Esboniodd hefyd am sut agorwyd “cold case review”, tra roedd John Cooper yn y carchar am fwrgleriaeth.  Cafodd ei gysylltu, heb unrhyw amheuaeth, am lofruddio’r pedwar. Roedd hynny flynyddoedd wedi iddo gyflawni’r troseddau erchyll, diolch i dechnoleg diweddar DNA. Canfuwyd olion gwaed a “fibres” y bobol lofruddiwyd, o dan cot o baent ar ddryll o eiddo Cooper, yn ogystal ag o dan “hem” ei shorts, oedd wedi cael ei addasu rai blynyddoedd cynt.

    Mae nifer yn credu taw John Cooper fu’n gyfrifol am lofruddio Griff a Patti Thomas,  y brawd a’r chwaer o Ffynnon Samson yn 1978 hefyd, gan ei fod yn gwneud gwaith ffensio yn yr ardal gyfagos bryd hynny. Mae ymgyrch ar y gweill i geisio ail agor yr achos hynny, ond does dim sicrwydd bydd hynny’n digwydd, gan bod amheuaeth os yw eitemau pwysig o dystiolaeth wedi eu cadw.

    Cawsom nifer o straeon doniol ganddo hefyd oedd yn cadarnhau ei fod wedi mwynhau’r profiad o weithio i Heddlu Dyfed Powys.

    Diolchodd Eifion, yn ddiffuant i Aled, am noson wych a bu pawb yn cymdeithasu ymhellach wrth fwynhau basned o gawl. Diolch o galon i Robert am yr arlwy ac am ei groeso arferol, gwerthfawrogwn y cyfan yn fawr iawn.