Skip to content

Cyfarfod cangen Beca Medi 27, 2023

    Croesawyd yr hen aelodau nôl i flwyddyn arall o weithgareddau gan ein Cadeirydd, Eifion Evans ac hefyd croesawodd aelod newydd yn wresog i’n plith. Mynegodd dristwch o golli un o’n haelodau ffyddlon sef Wyn (Henry) Morris a chofiodd yn annwyl iawn amdano.

    Merch ifanc oedd ein siaradwraig wadd, sef Gwawr Lewis o ardal Trelech.  Bu’n cyflwyno hanes ei bywyd a’i phrofiadau gwaith drwy gyflwyniad ac ambell glip o ffilm ar y sgrin. Merch fferm yw Gwawr a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Hafodwenog, Ysgol Uwchradd Bro Myrddin a Choleg Phrifysgol Caerdydd. Mynychodd aelwyd yr Urdd Hafodwenog a bu’n cymryd rhan mewn gwahanol gystadlaethau. Bu hefyd yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Pen y Bont ac mae’n dal i’w cynorthwyo a’i cefnogi.

    Ychydig ar ôl gadael y brifysgol cafodd Gwawr brofiad gwaith gan gwmni Cyfle a’i lleoli gyda chwmni Telesgop yn Abertawe fel ymchwilydd dan hyfforddiant. Swydd oedd yn ei siwtio hi’n dda, meddai, gan ei bod yn gorfod siarad gyda llawer o wahanol bobol!  Mae’n cyfaddef ei bod hi’n joio siarad! Ers y cyfnod hyfforddiant mae wedi bod yn ymchwilydd i amryw raglen,  yn is-gynyrchydd ac erbyn hyn yn gynhyrchydd y gyfres boblogaidd Ffermio.

    Cyn gorffen ei chyflwyniad pwysleisiodd Gwawr pa mor ffodus a dyledus oedd o fod wedi cael ei magu ar aelwyd fferm wledig.  Mae’n gwerthfawrogi’r dylanwadau da cafodd yn  yr ysgolion,  y Capel, Aelwyd yr Urdd a’r Ffermwyr Ifanc. Cawsom noson hwylus a difyr yn ei chwmni a diolchwyd iddi gan Eifion. Diolch hefyd i Robert am ddefnydd y lleoliad ac am ddarparu’r cawl arferol ar ein cyfer.