Skip to content

Cyfarfod Beca 28ain Chwefror 2024

    Croesawyd yr aelodau a’r siaradwr gwadd, Cris Tomos o Hermon gan ein Cadeirydd, Eifion Evans. Mae Cris yn adnabyddus i ni gyd fel dyn y grantiau. Bu’n cyflwyno gwybodaeth am ei waith fel swyddog Prosiect gyda’r sefydliad trydydd sector, Planed.

    Mae Cris wedi bod yn gweithio i Planed ers sawl blwyddyn ond ers 2023 yn bennaf ar brosiect Perthyn sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cymunedau cynaliadwy yn yr hen Sir Dyfed.

    Cyflwynwyd llawer iawn o ffeithiau a ffigurau i ni am y niferoedd o grantiau sydd wedi dod i’n hardaloedd,  gan nodi, prosiect Canolfan Hermon, prosiect Cwm Arian, y Stiwdio ar sgwâr Hermon, yr hen Gop,  y swyddfa heddlu a’r hen adeilad y llys yn Aberteifi. Yn ddiweddar hefyd fe wnaeth Gŵyl Fe ‘Na Mai elwa o nawdd gan brosiect Perthyn.

    Dau brosiect weddol lleol sy ar y gweill ar hyn o bryd ydi ail-sefydlu cwmni recordio Fflach yn Aberteifi a hefyd datblygu hen Gapel y Tabernacl, Aberteifi i fod yn ganolfan farddoniaeth. Prosiect arall i elwa o arian grant ydi’r prosiect addasu capel Bryn Myrnach yn Hermon.

    Cyn gorffen ei gyflwyniad pwysleisiodd Chris am bwysigrwydd paratoi cynllun gweithredu cymunedol cynhwysfawr cyn ymgeisio am nawdd grant.

    Cawsom noson ddiddorol yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Eifion. Diolch hefyd i Robert am ddefnydd y lleoliad ac am ddarparu’r cawl arferol ar ein cyfer.

    Cris yn datgan rhai o’r feithiau
    Cris gyda’r swyddogion