Skip to content

Y Doctor a’r Comediwr


    Ein siaradwr gwadd fis Tachwedd oedd Dr Sion James o’r feddygfa leol.

    Bachgen lleol yw Sion wedi ei eni a’i fagu yma yn ardal Llanio ger Tregaron ac wedi dychwelyd i’w ardal enedigol fel meddyg teulu.

    Byrdwn ei sgwrs oedd Iechyd Dynion. Amlinellodd wahanol gyflyrau cyffredin ymysg dynion fel cancr y prostad a’r ceilliau yn ogystal a pheryglon gor yfed a bwyta.

    Pwysleisiodd yr angen o gadw’n heini a bod yn gymhedrol wrth fwyta ac yfed.

    Noson ddiddorol a sobreiddiodd llawer un ohonom.

    Yna fis Rhagfyr gwahoddwyd y comediwr Glan Davies i ymuno a ni yn ein cinio Nadolig yn y Talbot.

    Croesawyd y gwr gwadd gan ein cadeirydd John Meredith gan gyfeirio at hiwmor Glan yn ogystal a’i waith gwirfoddol dros glefyd y galon am nifer o flynyddoedd gan godi swm sylweddol dros yr achos.

    Fe’n difyrwyd am yn agos i awr gan Glan wrth iddo adrodd storiau trwstan a doniol yn ystod ei yrfa fel diddanwr.

    Cafwyd prynhawn hwyliog i gychwyn dathliadau’r Nadolig.

    Fis Ionawr un o’n haelodau ni ein hunain fydd yn ein difyrru sef Charles Arch. Bu ef a John Watkin ar daith i’r wladfa yn ddiweddar. Felly edrychwn ymlaen am gael peth o hanes y daith ganddynt.

    Dymuna aelodau Cors Caron Flwyddyn Newydd Dda i holl ganghennau yr Hoelion.