Skip to content

Taith Ddirgel

    Daeth diwedd tymor yr Hoelion i ben gyda thaith ddirgel ddiwedd mis Mai. Dechreuwyd yn blygeiniol gyda brwdfrydedd, ond buan y daeth y disgwyliadau hynny i ben pan sylweddolwyd fod nifer y teithwyr un yn ormod i seddi’r bws, felly dim byd amdani ond teithio nol i Bontrhydygroes i gael bws yn fwy a sedd i bawb.

    Anelwyd trwyn y bws tua’r gogledd drwy Fachynlleth a Choris – ac roedd Selwyn wrth ei fodd gan ei fod yn un o’r ‘netifs’. Yna troi wrth bont yr afon Dyfi trwy bentref Penial, lle bu Charles Arch yn llafurio am flynyddoedd.  Wedi meddwl cael seibiant yn Aberdyfi i dorri syched, ond y lle yn orlawn o ‘Frymis’, felly ymlaen am Dywyn a phawb yn hymian y gan adnabyddus. Ond och a gwae yr un peth eto, y lle yn orlawn a’r syched yn gwaethygu. Cofiodd rhywun fod yna ffynnon gyfleus ym Mryncrug ac yno cafwyd torri syched a rhywbeth i’w fwyta. Wedi disychedu a gwledda nol i’r bws a theithio am Abergynolwyn. Gwelwyd Craig yr Aderyn yn y pellter ac olion Castell Y Bere. Dyna oedd nod ein cyrchfan cyntaf. Cerdded llwybr cul i fyny i’r castell a chael golygfeydd arbennig o’r dyffryn islaw. Y bwriad gwreiddiol oedd gweld cofeb Mari Jones ond sylweddolwyd fod y ffordd yn rhy gul i’r bws.

    Felly teithio drwy bentref Abergynolwyn fyny Talyllyn a throi am Brithdir am Y Bala. Ein cyrchfan nesaf oedd safle carchar Frongoch ar y ffordd i lyn Tryweryn. Yno cawsom hanes y carcharorion o Iwerddon gan Lyn Ebenezer, sydd gyda llaw wedi cyhoeddi llyfr ar  hanes y carcharorion   a garcharwyd yno adeg y gwrthryfel 1916. Yno roedd dau lond bws o Iwerddon yn ymweld, gyda llawer ohonynt yn ddisgynyddion i’r carcharorion. Erbyn hyn roedd pawb bron clemio, nol felly i dafarn ‘Yr Eagles’ yn Llanuwchllyn i swpera. Taith hynod o ddiddorol a’r tywydd yn braf i werthfawrogi golygfeydd ein gwlad yn heulwen Mai.

    Rhai a fu'n ddigon ystwyth i gerdded lan i'r castell
    Rhai a fu’n ddigon ystwyth i gerdded lan i’r castell