Skip to content

Cyfarfod Mis Tachwedd + Rhaglen Eisteddfod 2020

    HOELION 8 -Eisteddfod 2020
    Ein gwr gwadd fis Tachwedd oedd yr Athro Geraint Jenkins,Blaenplwyf-Darlithydd,Academydd,Awdur a hanesydd.Cafodd Geraint ei eni a’i fagu’n Mhenparcau ac mae wedi dilyn gyrfa lwyddiannus yn y byd academaidd ac wedi bod yn ddarlithydd mawr ei barch yn adran Hanes Cymru,Prifysgol Abrystwyth.Yn ychwanegol at y maes addysg,mae ganddo gariad angerddol tuag at y bel gron,a chlwb peldroed Abertawe ac wrth gwrs y tim Cenedlaethol.Bu’n chwaraewr dawnus gyda Penparcau,Tref Aberystwyth,Cei Newydd a’r Bont.
    Roedd testun ei gyflwyniad yn amserol gan fod y Genedlaethol yn dod i Dregaron ymhen ychydig fisoedd bellach.Hanes sefydlu Gorsedd beirdd Ynys Prydain a’r digymar Iolo Morgannwg oedd ganddo,ac unwaith eto roedd dawn athrylithgar Geraint o gyflwyno pwnc a fedrai fod yn anniddorol i nifer yn destun llawn hiwmor ac roedd hi’n bleser gwrando arno’n cyflwyno’r ffeithiau a’r hanes mewn dull cofiadwy a oedd yn llwyddo i gadw sylw pob un yn ystod y tri chwarter awr a hedfanodd heibio’n ei gwmni.
    Unwaith eto,dyma noson i’w chofio,ac mae’n sicr y bydd gan y criw a oedd yn bresennol wybodaeth drylwyr o’r Orsedd pan eu gwelir nhw o gwmpas Tregaron yn eu gwyn,glas a gwyrdd fis Awst nesaf.

    EISTEDDFOD YR HOELION 8 2020
    EBRILL 3ydd 2020
    Gwesty’r Talbot,Tregaron
    (Hon yw’r Genedlaethol-bydd Eisteddfod llai’n dilyn ym mis Awst,hefyd yn Nhregaron!!)
    Rhestr Testunau
    LLWYFAN
    1.Cor GOR ADRODD -Dim llai na 4 ar y llwyfan- Y LLWYNOG (R.Williams Parry)
    Ganllath o gopa’r mynydd pan oedd clych
    Eglwysi’r llethrau’n gwahodd tua’r llan,
    Ac annrheuliedig haul Gorffennaf gwych
    Yn gwahodd tua’r mynydd,-yn y fan,
    Ar ddiarwybod droed a distaw duth,
    Llwybreiddiodd ei ryfeddod prin o’n blaen
    Ninnau heb ysgog ac heb ynom chwyth
    Barlyswyd ennyd,megis trindod faen
    Y safem,pan ar ganol diofal gam
    Syfrdan y safodd yntau,ac uwchlaw
    Ei untroed oediog dwy sefydlog fflam
    Ei lygaid arnom.Yna heb frys na braw
    Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib,
    Digwyddodd,darfu,megis seren wib.

    2.Dweud joc yn ymwneud ag anifail neu anifeiliaid.

    3.Sgets-teitl/thema- Amaethyddiaeth

    4.Eitem Karaoke-y geiriau a’r gerddoriaeth ar y noson

    5.Cor- Rhoddir darn y cor allan ar y noson

    GWAITH CARTREF
    1. BRAWDDEG C.Y.M.Y.D.O.G

    2. LIMERIG ‘Mae’r ‘steddfod yn dod I Dregaron’

    3. BRYSNEGES Llythyren ‘P’ (Dim mwy na 10 gair)

    4. CERDD DDIGRI HOELEN neu HOELION

    5. TELYNEG /SONED/CERDD RYDD CORS.

    Cyfansoddiadau i law’r beirniad erbyn MAWRTH 27ain 2020.

    Cyhoddir enw’r beirniaid (llwyfan a Gwaith cartref) yn y flwyddyn Newydd ar ol iddynt dderbyn (gobeithio!) y gwahoddiad.