Agorodd y tymor 2019-20 drwy dorri cwys newydd. Gan nad oedd ein lleoliad arferol,gwesty’r Talbot,yn gyfleus,mentrwyd allan i ehangu’n gorwelion,a chynnal y noson agoriadol yn nhafarn y New Inn,Llanddewi Brefi. Cafwyd croeso arbennig gan Yvonne Edwards,a mawr oedd diolch pawb iddi.
Noson gymdeithasol oedd hi,a’r ysgrifennydd Geraint Morgan wedi trefnu rhaglen ddiddorol ar ein cyfer. Oherwydd prysurdeb sawl aelod, a salwch rhai,cafwyd nifer o ymddiheuriadau,ond llonwyd pawb o weld yr anfarwol Dai Llanilar nôl yn ein plith yn dilyn ei salwch dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyw Dai heb golli dim o’i hiwmor ac mae ei gwmni’n cyfoethogi pob cyfarfod.
Mwynhawyd awr a hanner o straeon difyr yn eu tro gan yr aelodau-straeon arswyd,straeon am gymeriadau,straeon adeg y rhyfel,straeon digri a.y.y .b,ac un hanesyn yn llifo mewn i’r llall.
Yn ogystal cafwyd dwy gystadleuaeth ar y pryd-gorffen limerig a chreu pennawd i gartwn. Enillydd y limerig oedd Selwyn Jones.
Beth wnawn ni ar ôl yr Eisteddfod?
Gath rhai i’r orsedd eu gwrthod
Neb yn deilwng o’r goron
Y gadair yn yfflon
A hynny i gyd ar un diwrnod.
Enillydd y pennawd i’r cartwn oedd Geraint Morgan.
Diolch i Yvonne,New Inn ac i Eirwen James,Ty Mawr am gytuno i feirniadu’r holl ymdrechion ar fyr rybudd o funud yn unig!!! Cafodd y ddau enillydd wobr hael yr un!
Heb amheuaeth,dyma noson lwyddiannus arall a phawb yn gytun bod nosweithiau o’r fath yn werth eu cynnal.Er i’r cyfarfod orffen yn swyddogol tua hanner awr wedi naw,parhaodd y cymdeithasu a’r straeon i nifer tan hanner nos! Gymaint oedd y mwynhad.