Skip to content

ADRODDIADAU CORS CARON

    Hoelion 8 Cors Caron-Chwefror,Mawrth,Ebrill
    Cyfarfod Chwefror 2019
    Y gŵr gwadd ym mis Chwefror oedd un o Helion 8 amlycaf Cymru,sef y bonwr Calfin Griffiths o LanfIhangel-Ar-Arth. Mwynhawyd noson ddifyr yn ei gwmni’n son am yr adeg pan ddaeth trydan i Dyffryn Teifi. Mae Calfin wedi ysgrifennu llyfr am yr hanes ac mae’r cynnwys yn hynod ddiddorol. Dyma noson arall a fwynhawyd gan bawb oedd yn bresennol,gan fod nifer o’r Hoelion a diddordeb mawr,ac yn cofio dyfodiad trydan am y tro cyntaf i’w cartrefi nôl yn y pumdegau, a’r cyffro a’r syndod a fu gan y werin dlawd yng nghefen gwlad o gael y fath foethusrwydd ar ôl dyddiau’r gannwyll.

    Cyfarfod Mawrth 2019
    Yr eisteddfod flynyddol oedd yn hawlio sylw’r aelodau’n mis Mawrth,ac ar ôl oriau a nosweithiau di-ri o ymarfer (!!!!) a chyfansoddi’r gwaith cartref,teithiodd 2 lond car i lawr i berfeddion Sir Benfro ac i gaffi Beca. Roedd y cyfryngau wedi clywed am orchestion yr Hoelion a safon eithriadol eu heisteddfod dros y blynyddoedd,ac fel canlyniad wedi penderfynu talu ymweliad a’r noson-ac yn wir ni chawsant eu siomi.
    Wedi brwydro ffyrnig ar y llwyfan a derbyn beirniadaethau’r gwaith cartref ar yn ail gan Y prifardd Tudur Dylan,gwelwyd mai cangen Beca eleni oedd wedi cipio’r darian am y pwyntiau uchaf,a hynny o drwch blewyn ar ein cangen ni. Llongyfarchiadau i Beca ac i Eurfyl Lewis(Beca) am gipio’r goron a Lyn Ebenezer(Cors Caron) am ennill y gadair. Llwyddodd ein cangen ennill a chael safleoedd uchel mewn nifer o’r cystadlaethau-llongyfarchiadau i bawb. Ie,noson arall gofiadwy ac roedd hi’n gysurus yn fore Sadwrn arnom yn mynd i’n gwelyau.

    Cyfarfod Ebrill 2019
    Y cyfreithiwr Peredur Evans,gynt o Dregaron ond bellach o Bontrhydygroes,oedd ein gŵr gwadd ar nos Wener olaf mis Ebrill .Treuliodd Peredur ei yrfa’n Llambed a Thregaron gyda chwmni cyfreithwyr Arnold Davies,a’i gymar a’i gydweithiwr am y rhan helaeth o’r blynyddoedd hynny oedd David Lloyd Jones o’r Bont. Cawsom ein gwefreiddio gan Peredur wrth iddo ein tywys drwy fyd y gyfraith,gan son am hynt a helyntion gwahanol ewyllysiau (heb enwi neb yn naturiol!!). Roedd hi’n anhygoel clywed am rai o’r amodau oedd ynghlwm wrth nifer o’r ewyllysiau yma.
    Noson wych arall,a dawn dweud Peredur yn golygu fod yr amser yn llythrennol wedi hedfan-gallasem fod wedi treulio awr arall yn rhwydd yn gwrando arno,dyna mor ddiddorol oedd y cyflwyniad.
    Mae Peredur wrth gwrs yn aelod yn ein cangen ni,ac yn mynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd.Mor ffodus ydym o gael person arall eto’n ein plith sydd a chymaint i gyfrannu I’n diwylliant a’n hanes.Diolch I ti Peredur.