Skip to content

Cinio dathlu 40 y gangen

    Ar Nos Iau, Medi 26ain cynhaliwyd cinio arbennig i ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu Cangen Hoelion Wyth Hendygwyn-ar-Daf.
    Daeth yr aelodau presennol ynghyd, yn ogystal â chyn-aelodau, i fwynhau pryd rhagorol o fwyd yng Nghlwb Rygbi Hendygwyn.
    Estynnwyd croeso i bawb yn cynnwys gwragedd a phartneriaid yr aelodau, gan y Cadeirydd Claude James. Yn bresennol roedd John Davies a oedd gyda’r diweddar Brifardd Dic Jones, wedi sylfaeni’r gangen gyntaf o’r Hoelion Wyth yn Aberporth. Cafodd groeso arbennig ynghyd â gŵr gwadd y noson sef Mr. Iorwerth Davies, (Ysgrifennydd cyntaf cangen Hendygwyn). Gyda Ithel Parri-Roberts, Mel Jenkins, Iorwerth Davies, Trefor Evans ac eraill, sefydlwyd y Gangen yn 1979 ac mae’n dal yn gryf hyd heddiw.

    Ar ôl y cinio, cafwyd araith bwrpasol gan Iorwerth, yn son am ddechreuad y gangen a’r hwyl oedd yn yr eisteddfodau cynnar; hefyd soniodd am ei atgofion ef a’i deulu o fyw yn yr ardal am saith mlynedd cyn symud ac ymgartrefu ym Mhenybont-ar-Ogwr.

    Yn dilyn araith Iorwerth, pleser oedd clywed cyfarchion canghennau eraill o’r Hoelion Wyth yn llongyfarch ein cangen ar gyrraedd y garreg filltir yma. Darllenodd y Cadeirydd gyfarchion wrth canghennau Beca, Cors Caron, Sion Cwilt a Wes Wes.

    Roedd y diolchiadau yng ngofal Verian Williams. Cyn gwneud hynny cyfeiriodd at y gefnogaeth ariannol mae’r gangen wedi ei roi i elusennau pell ac agos dros y blynyddoedd, hefyd am ymgyrch Gwin y Mimosa gan yr Hoelion Wyth yn genedlaethol sydd erbyn hyn wedi sicrhau fod trydydd siec o £5500 wedi ei chyflwyno er budd Ysgol y Cwm, Trefelin ym Mhatagonia.

    Diolchodd Verian yn gyntaf i Phil a Susan am baratoi’r ystafell ac i Christine James am arlwyo mor arbennig; hefyd i Iorwerth Davies am dderbyn y gwahoddiad ac am ei gyfraniad i’r noson. Diolchodd i Mel Jenkins, nid yn unig am drefniadau manwl y ginio, ond fel ein ‘Swyddog Adloniant’ am drefnu tripiau a chiniawau y gangen ers blynyddoedd; hefyd i’r Swyddogion i gyd am eu gwaith da yn y gangen, sef Claude James (Cadeirydd); Dewi James (Trysorydd) ac Ithel Parri-Roberts (ein cynrychiolydd ar Y Pwyllgor Cenedlaethol). Yn naturiol nid oedd yn bosibl anghofio cyfraniad Verian ei hun fel ein Ysgrifennydd sydd wedi trefnu siaradwyr gwych i’r cyfarfodydd ers llawer blwyddyn, a diolchwyd iddo ef gan y Cadeirydd.

    Bu’n noson arbennig iawn ac estynnwn groeso cynnes i unrhyw un sydd am ymuno â ni yn y dyfodol. Mae’r gangen yn cwrdd ar y nos Iau cyntaf o bob mis (o Fed i Mai) am 8 o’r gloch yn Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Dewch – byddwn yn falch i’ch gweld.

    Cangen Beca
    Llongyfarchiade mowr i chi, Hoelion Wyth Hendy Gwyn ar ddathlu deugain mlynedd ers sefydlu’r gangen nôl yn 1979. Mae’n garreg filltir bwysig yn eich hanes a dim ond un cangen sy’n henach na chi, sef cangen Aberporth.
    Gallwch ymfalchio yn y cyfraniad aruthrol mae’ch cangen wedi ei wneud tuag at fywyd diwylliannol Hendy Gwyn a’r ardal, yn ogystal ag o fewn Cymdeithas yr Hoelion Wyth.

    Dyma bennill neu ddou i’ch cyfarch.

    Llongyfarchiade gwresog, i Hoelion Hendy Gwyn,
    Ar ddathlu carreg filltir, Arbennig y nos hyn.

    Rhown ddiolch yma heno, Am bopeth da a gaed,
    Rhown ddiolch unwaith eto, Am bopeth da a wnaed.

    Gwarchod iaith fu’n bwysig iawn, Ac hefyd cymdeithasu,
    Gwnaethpwyd hyn i gyd a mwy, Am hynny diolch ichi.

    Hyderaf y gwnewch gofio, Wrth fynd ymlaen yn llawen,
    Arwyddair y Gymdeithas, Nid rhwd anrhydedd Hoelen.

    Pob llwyddiant i’r dyfodol, Na ellir ei ddarogan,
    Ond cofiwn gyda’n gilydd, Taw mlan o hyd ma Canan!

    Eurfyl Lewis, ar ran Cangen Beca a Cymdeithas yr Hoelion Wyth

    Cangen Cors Caron
    Llongyfarchiadau mawr i gangen Hoelion 8 Hen-dy-Gwyn-Ar-Daf ar gyrraedd penblwydd arbennig iawn, sef dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu. Mwynhewch y cinio heno a pheidiwch yfed gormod o win y Mimosa!
    John Jones (Cadeirydd Cangen Cors Caron)

    Cangen Sion Cwilt
    Llongyfarchiadau ar y penblwydd arbennig yn 40 – mwynhewch heno. Pob dymuniad da a cadwch fynd i’r dyfodol.
    Calfin (Cadeiridd) ar ran cangen Sion Cwilt.

    Cangen Wes Wes
    40 o flynyddoedd wedi mynd. Llongyfarchiade wrth Cangen Wes Wes. Dw i’n siwr cewch chi noson arbennig heno. Ma Ithel a Mel siwr o fod yn cofio’r noson ddechreuodd Cangen Hendy-gwyn……..nhw sy henaf siwr o fod!!!!!
    Diolch i chi gyd am gefnogi Cangen Wes Wes. Peter Rees

    Diolch i chi gyd am gefnogi Cangen Wes Wes. Peter Rees.

    Ithel Parri-Roberts; Claude James (Cadeirydd), John Davies; Mel Jenkins (Swyddog Adloniant); Iorwerth Davies; Verian Williams (Ysgrifennydd a Dewi James (Trysorydd).

    John Davies yn torri’r gacen