Cynhaliwyd ein Cinio Blynyddol eleni yn Y Popty yn Hendygwyn. Cafwyd pryd o fwyd ardderchog ac yn dilyn estynnwyd croeso i’n siaradwr gwâdd a’i briod sef John a Heather Phillips, Esgerddeugoed, Cwmfelin Mynach. Mae John wedi ei eni a’i fagu yn y pentref ac ar ôl addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Hendygwyn penderfynodd mae adref ar y fferm deuluol oedd am fod. Soniodd hefyd am ei ddyled i Fuduad y Ffermwyr Ifanc a’r cyfleoedd gafodd fel aelod o’r mudiad.
Gyda ymddeoliad ei rieni, cymerodd John a Heather drosodd ar y fferm a dechreuwyd sefydlu buches o wartheg pedigri Limousin ac erbyn heddiw maent yn cael eu cydnabod fel un o fridwyr gorau’r Deyrnas Unedig. Ar ôl cyfnod fel Cadeirydd Cymru o Gymdeithas y Limousin mae eleni, ar ôl cyfnod fel Is-Gadeirydd wedi ei ethol yn Gadeirydd y gymdeithas drwy Brydain Fawr.
Bu’n sôn am y gwledydd bu ef a Heather yn ymweld â hwy gyda’r gymdeithas dros y blynyddoedd yn cynnwys Zimbabwe, Canada a llynedd, Arianin. Yng nghwmni llawer o gynrychiolwyr o wledydd eraill y byd buont yn gweld buchesu ar ffermydd gwahanol ac hefyd yn mynychu cynadleddau.
Diolchwyd iddo am dderbyn y gwahoddiad ac am araith a oedd o ddiddordeb i bawb. Diolch yn fawr hefyd i Mel Jenkins am wneud y trefniadau ar gyfer y noson.
Verian Williams, Dewi James a Wyn Evans yng nghwmni John a Heather Phillips