Skip to content

Cinio Blynyddol Cangen Beca

    Cynhaliwyd cinio blynyddol Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Ionawr 23ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Nigel Vaughan ac offrymwyd gras gan y Parchedig Ken Thomas. Cafwyd gwledd arbennig wedi ei baratoi gan Robert James a’i staff ac wedi diolch iddynt cyflwynodd Nigel wraig gwadd y noson sef Yvonne Evans o Aberaeron. Mae Yvonne yn wyneb cyfarwydd ar S4C gan taw hi yw un o’r bobl sy’n darogan y tywydd ar y sianel. Y tywydd oedd byrdwn ei haraith a cafwyd noson ddiddorol tu hwnt yn ei chwmni. Diolchwyd i Yvonne yn gynnes iawn gan Roy Llewellyn ac ategwyd hyn gan Huw Griffiths.

    CinioH8