Skip to content

Cinio Blynyddol Cangen Beca

    Cynhaliwyd cinio blynyddol Hoelion Wyth cangen Beca yn Nhafarn yr Oen, Llanboidy ar nos Wener, Ionawr 12fed. Croesawodd y cadeirydd, Eifion Evans bawb ac offrymwyd gweddi o ddiolch gan y Parchedig Ken Thomas. Cawsom wledd arbennig o fwyd blasus gan Non, Angela, Richard a’r staff.
    Cyflwynodd Eifion y siaradwr gwadd, sef y cyn chwaraewr rygbi, gynt o Fancyfelin, Delme Thomas. Roedd Delme yn un o dîm llwyddiannus y Llewod o dan arweiniad y diweddar Carwyn James a enillodd y gyfres o brofion yn erbyn Crysau Duon, Seland Newydd ar eu tomen eu hunain yn 1971. Blwyddyn yn ddiweddarach, pan yn gapten ar dîm y Sgarlets, gwnaeth eu harwain i fuddugoliaeth hanesyddol dros y Crysau Duon ar Barc y Strade. Does dim llawer o Gymru sy’n medru dweud ei bod wedi curo’r Crysau Duon fwy nag unwaith!
    Cafwyd cyflwyniad ganddo oedd yn seiliedig ar ei hunangofiant a gyhoeddwyd gan wasg Y Lolfa yn 2013 – llyfr sydd werth ei ddarllen.
    Roedd yn gyflwyniad diddorol iawn, a daeth yn amlwg iawn wrth wrando ar Delme ei fod yn ddyn diymhongar a ddiymffrostgar ond yn un sydd yn uchel iawn ei barch gan bawb sydd yn ei adnabod, yn enwedig ym myd y bêl hirgron.
    Diolchwyd iddo yn ddiffuant gan Eifion ac ategwyd hynny gan Eurfyl.