Skip to content

Cinio Blynyddol cangen Beca

    Cynhaliwyd cinio blynyddol Hoelion Wyth cangen Beca yn Nhafarn yr Oen, Llanboidy ar nos Wener, Ionawr 15fed. Croesawodd y cadeirydd Nigel Vaughan bawb ac offrymwyd gras gan y Parchedig Ken Thomas. Cafwyd gwledd arbennig o fwyd gan Non, Angela, Richard a’r staff. Cyflwynodd Nigel y siaradwr gwadd sef Y Parchedig Aled Gwyn sydd wrth gwrs yn wyneb cyfarwydd i bobol yr ardal a braf oedd cael ei groesawu’n ôl. Storïau amrywiol cafwyd ganddo am bobol o’i ardal enedigol ac ardal Dyffryn Taf a’r cyffiniau. Roedd yn gyflwyniad diddorol ac addysgiadol iawn. Diolchwyd iddo yn ddiffuant gan Roy Llewellyn ac ategwyd hyn gan Huw Griffiths, sef cyn ddisgybl yr Ysgol Feithrin Ffynonnwen a sefydlwyd yn wreiddiol gan Aled a’i diweddar wraig, Menna ar eu haelwyd yn Henllan.

    Aled