Skip to content

Cinio Blynyddol Beca

    Cynhaliwyd cinio blynyddol Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Ionawr 10fed. Croesawodd y cadeirydd, Eifion Evans bawb ynghyd ac offrymwyd gweddi a gras gan y Parchedig Ken Thomas.

    Yn anffodus nid oedd y siaradwr gwadd sef Huw Llywelyn Davies wedi gallu bod yn bresennol ond fe wnaeth Y Parchedig Huw George achub y dydd. Diolchodd Eifion iddo am fodloni ein helpi, a hynny heb lawer o rybudd!

    Cawsom gyflwyniad egnïol a diddorol gan Huw yn seiliedig ar bob math o weithgareddau amrywiol allan o’i ddyddiadur llawn. Fe wnaeth sôn am yr holl brofiadau gwahanol oedd wedi ei brofi yn ystod yr wythnos wrth gyfarfod a theuluoedd mewn galar. Soniodd hefyd am yr holl gymeriadau mae wedi cyfarfod dros y blynyddoedd ac am bobol sy’n ei ystyried bellach fel ffrind am ei fod wedi gwasanaethu mewn angladdau perthnasau iddynt. Daeth yn amlwg yn ystod y cyflwyniad y bod Huw yn ddyn prysur iawn!

    Diolchwyd iddo yn ddiffuant gan Eifion ac ategwyd hynny gan Vernon Beynon.

    Cawsom wledd arbennig o fwyd blasus wedi ei baratoi gan Robert James a’i weini gan ei staff ymroddgar, diolchodd Eifion iddynt hwy hefyd.