Cynhaliwyd cinio blynyddol Hoelion Wyth Beca yng Nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Mawrth 25ain. Croesawyd pawb ynghyd gan y Cadeirydd Eifion Evans cyn I Ken Thomas offrymu gras. Bu pawb yn mwynhau pryd blasus o fwyd ac yn mwynhau cymdeithasu cyn gwrando ar araith ein siaradwr gwadd sef Brian Jones, Castell Howell.
Esboniodd Brian sut wnaeth arall gyfeirio o odro gwartheg yn ystod cyfnod y cwotau nol yn yr wythdegau, a dechrau magu cywion / ieir ar ei fferm.
Datblygodd y busnes o fan honno a bu rhaid symud o glos y fferm i uned ddiwydiannol yng Nghaerfyrddin o fewn ychydig flynyddoedd. Erbyn heddiw, mae gan Bwydydd Castell Howell uned enfawr / “hub” yn Cross Hands yn ogystal a nifer o ganolfannau dosbarthu arall, led led y wlad. Mae’n stori hollol ryfeddol a daeth yn amlwg o wrando ar Brian yn siarad, taw asgwrn cefn a llwyddiant pennaf y cwmni yw staff hollol ymroddgar. Pwysleisiodd taw staff cydwybodol yw ased pennaf pob cwmni a bod yntau’n ymddiried yn llwyr ynddynt. Mae’n amlwg bod y staff yn ymddiried ac yn parchu Brian hefyd gan bod canran uchel iawn ohonynt wedi gweitho i’r cwmni am flynyddoedd lawer.
Diolchodd Roy Llewellyn yn hollol ddiffuant i Brian am araith fyrlymus yn llawn hiwmor a talodd deyrnged haeddianol iddo, nid yn unig am y modd mae yntau wedi datblygu busnes llwyddiannus dros ben, ond hefyd am yr holl elusennau a cymdeithasau maent wedi cefnogi’n ariannol ar hyd y blynyddoedd.
Diolchodd Eifion i Robert a’I staff am baratoi a gweini gwledd ar ein cyfer, roedd yn hyfryd cael cynnal cinio blynyddol wedi saib o dros dwy flynedd. Diolch hefyd i Eurfyl am drefnu’r noson.