Skip to content

Cinio Blynyddol

    Cynhaliwyd cinio blynyddol Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca Efailwen ar nos Wener, Ionawr 11eg. Croesawodd y cadeirydd, Eifion Evans bawb ynghyd ac offrymwyd gweddi a gras gan y Parchedig Ken Thomas. Cafwyd munud o dawelwch er cof am yr aelodau gollwyd yn ystod y flwyddyn diwethaf sef Laurence Bowen, Tyrel Griffiths a Huw Griffiths. Darllenodd Eurfyl Lewis bennillion roedd wedi ei cyfansoddi er cof am aelod annwyl sef Huw Griffiths.

    Cyflwynodd Eifion y siaradwr gwadd sef Ifan Gruffydd, y digrifwr o Dregaron. Cyfeiriodd ato fel ffermwr ddaeth yn enwog am ddifyru cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru gyda’i hiwmor a’i storie byrlymus. Cafwyd cyflwyniad gwych ganddo yn llawn hiwmor a straeon am ei fagwraeth ar y fferm ger Tregaron. Bydd y straeon amdano yn chwarae rygbi ( neu’n hytrach ei ymgais i osgoi’r bel a chware’r gem ), ymweliad I’r deintydd a ffono’r A.I. yn sefyll yn y cof am amser hir. Pleser pur oedd gwrando arno hefyd yn darllen limrigau a cerddi o’i waith. Diolchwyd iddo yn ddiffuant gan Eifion ac ategwyd hynny gan Gwyndaf Evans.

    Cawsom wledd arbennig o fwyd blasus wedi ei baratoi gan Robert James a’i weini gan ei staff ymroddgar, diolchodd Eifion iddynt hwy hefyd. Enillwyd y raffl gan Gareth Griffiths a John Beynon.

    Edrychwn mlaen nawr tuag at yr Eisteddfod gynhelir ar nos Wener, Mawrth 15fed.