Skip to content

Cinio Blynyddol

    Cynhaliwyd ein cinio blynyddol ar Nos Wener, Ionawr 26ain yn Nhafarn y Carpenter’s Arms, Lacharn. Cafwyd noson bleserus dros ben – cwmni da a phryd rhagorol o fwyd.

    Yn dilyn y cinio, estynnwyd croeso gan y Cadeirydd, Claude James, i’r siaradwr gwâdd sef Archddeacon Caerfyrddin, Yr Hybarch Dorrien Davies, Abergwili, sydd nawr â gofal Eglwysi San Clêr, Llangynin a Llanfihangel Abercywyn. Yn ei ffordd ddihafal ei hun, cafwyd hanes ei yrfa o’r amser y dechreuodd yr ysgol yn Abergwili i’w ddyrchafiad diweddaraf o fewn yr Eglwys yng Nghymru.
    Roedd ei araith yn llawn hiwmor ond yn gorffen yn ddidwyll gyda neges bwrpasol.

    Diolch yn fawr i’r Swyddog Adloniant, Mel Jenkins a’r Cadeirydd, Claude James am wneud yr holl drefniadau.

     

    Yr Hybarch Dorrien Davies gyda’r swyddogion, Mel Jenkins, Verian Williams, Ithel Parri-Roberts, Dewi James a Claude James