Skip to content

Cinio Blynyddol

    Cynhaliwyd y cinio ar Nos Wener, Ionawr 27ain yng Ngwesty Nantyffin. Ar ôl pryd blasus o fwyd, croesawyd a chyflwynwyd y siaradwr gwâdd, sef Aneurin Davies o ardal Llanbed. Dyn ‘tarw potel’ neu Aneurin A.I. yw o ran ei alwedigaeth ac wedi gwneud y gwaith ers blynyddoedd, yn gweithio allan o Felinfach.
    Mae wedi cyhoeddi llyfr (gyda chymorth ei fab, Terwyn) sy’n llawn straeon am ei brofiad yn mynd o amgylch y ffermydd yn ddyddiol. A dyna’r hyn gafwyd ganddo yn ei araith, sef detholiad o’r storiau a’r troeon doniol a ddigwyddodd iddo, yn aml, wrth wneud ei waith.
    Cafwyd amser difyr iawn yn ei gwmni ac mae’i lyfr yn werth ei ddarllen.

    Cyn gorffen, dymunwyd yn dda i un o sefydlwyr Cangen Hendygwyn o’r Hoelion Wyth, sef Ithel Parri-Roberts a’i briod Jean ar eu hymddeoliad ar ôl 53 o flynyddoedd yn rhedeg y Swyddfa Bost yn Hendygwyn; hefyd am eu hymroddiad i Gymreictod y pentref a’r ardal.