Skip to content

Cinio Blynyddol 2017 – Cangen Beca

    Cynhaliwyd cinio blynyddol Hoelion Wyth cangen Beca yng Nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Ionawr 13eg. Croesawodd y Cadeirydd Nigel Vaughan bawb ac offrymwyd gras gan y Parchedig Ken Thomas. Cafwyd gwledd arbennig o fwyd gan Robert a’r staff.  Cyflwynodd Nigel y siaradwr gwadd sef y cyflwynydd radio a theledu ifanc, Ifan Jones Evans o Bont-rhyd-y-groes.

    Cafwyd ambell stori ddigri a hanes bywyd ar fferm ei rieni, a’i deulu bach, a’i brofiadau ers iddo ddechrau ar y gwaith cyflwyno a sut mae’n cyfuno’r ffermio, cyflwyno a chwarae pêl droed i dîm y Bont. Daeth yn amlwg wrth fod yn ei gwmni ei fod yn fachgen hynaws a chyfeillgar ac fe wnaethon ni gyd fwynhau yn fawr iawn yn ei gwmni.  Yn ôl ei ddarllediad ar Radio Cymru’r diwrnod canlynol daeth yn amlwg ei fod yntau hefyd wedi mwynhau ein croeso a’n cwmni ninnau.  Roedd ei gyflwyniad yn ddiddorol ac addysgiadol iawn ac yn llawn hiwmor.  Diolchwyd iddo yn ddiffuant gan Eurfyl Lewis.