Skip to content

Cinio Blynyddol 2009

    Cynhaliwyd cinio blynyddol y gangen yn nhafarn yr Oen, Llanboidy ar nos Wener, Ionawr 22ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Gareth Griffiths ac offrymwyd gras gan y trysorydd Ken Thomas. Cawsom wledd arbennig wedi ei pharatoi gan Angela a Richard Murray ac yna croesawyd y gwr gwadd sef yr actor Gwyn Elfyn sy’n chwarae’r cymeriad Denzil yn Pobol y Cwm. Cafwyd araith wych ganddo yn llawn hiwmor a bu’n pwysleisio pa mor bwysig mae Cymreictod, capel, crefydd a chwerthin wedi cael ar ei fywyd. Bu’n son am y cymeriadau fu’n ddylanwad arno pan yn ifanc ac am ei ddyled i’r cymunedau cafodd ei fagu ynddynt. Diolchodd Henry Morris i Gwyn am araith hyfryd ac yna bu Wyn Evans yn darllen yr englynion canlynol o’i waith i gyfarch Gwyn :- O un cwm i’r llall fe grwydra – cymeriad A thros Gymreictod hwn frwydra, Actor da reit i wala, A’i Dduw, hwn a ddilyna. Cawr o Gymro diflino – Cristion A’r Pethe’n agos iddo, Yn y Deri Denzil yw o Ond Gwyn Elfyn yma heno. Diolchodd Gareth i Richard ac Angela Murray a’u staff am y wledd hyfryd, i’r gwr gwadd Gwyn Elfyn ac i bawb am gefnogi. Enillwyd y raffl gan Veronica Griffiths, Hywel Evans a Gwyn Elfyn. Cwis Blynyddol y Cardi Bach Llongyfarchiadau i aelodau’r gangen sef Gareth Griffiths, Eurfyl Lewis a Robert James ar ennill cwis blynyddol y Cardi Bach a gynhaliwyd yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Chwefror 5ed. Cawsant gymorth gan dau darpar aelod sef Tomos a Gwyndaf Lewis. Cyflwynwyd gwobr o £50 i gadeirydd y gangen sef Gareth Griffiths a dywedodd byddent yn cyflwyno’r wobr i Hosbis Ty Hafan – bydd Eurfyl a nifer o fechgyn arall o’r ardal yn cymryd rhan mewn taith feicio noddedig o Lanfairpawll i Hendy Gwyn er budd Ty Hafan ym mis Ebrill. Eisteddfod Blynyddol Bydd yr aelodau yn ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod yn ystod yr wythnosau nesaf.

    xfyo1v
    Henry Morris, Ken Thomas, Gareth Griffiths ac Eurfyl Lewis yng nghwmni’r gwr gwadd Gwyn Elfyn