Skip to content

Chwefror 2020

    Pleser o’r mwyaf oedd cael cwmni’r gŵr ifanc, llawn bwrlwm Shôn Rees neu Shôn Midway fel mae’n cael ei adnabod i’m cyfarfod Chwefror.  Croesawyd ef gan ein Cadeirydd  Eifion Evans.

    Cawsom gyflwyniad yn cynnwys ychydig o’i hanes ef, ac am hanes datblygiad y busnes Midway Motors ers ei sefydlu gan ei ddat-cu Stanley Rees yn 1957.

    Trosglwyddwyd hyn i ni mewn ffordd unigryw Shôn yn llawn hiwmor ac yn cynnwys sawl stori ddigri a’r rheini i gyd yn rhai gwir!  Roedd hefyd wedi paratoi cwis i ni yn seiliedig ar fysiau a teithio.

    Cafwyd noson ddifyr iawn yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Eifion a Gwyndaf Evans. Darparwyd cawl blasus ar ein cyfer a diolch unwaith eto i Rob am ei wasanaeth ac am gael defnydd y caffi ar gyfer ein cyfarfodydd.