Skip to content

Chwefror 2024

    Cynhaliwyd cyfarfod mis Chwefror, fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Estynnwyd croeso cynnes i’r siaradwr gwadd, sef Dai Rees, yn wreiddiol o San Cler ond yn awr yn byw yn Sir Benfro. Dyma’r trydydd tro I Dai Rees ddod i siarad â ni, y tro cyntaf yng nghyfarfod Tachwedd 2021 pryd bu’n rhoi ei hanes ar ôl iddo ymddeol o’i yrfa ddisglair gyda’r heddlu. Yr ail dro, cawsom hanes ei yrfa gyda’r heddlu gan ganolbwyntio ar y ddwy flynedd a hanner bu’n rhan o’r tîm o pedwar ar ddeg, yn fechgyn a merched, a oedd yn ymchwilio i’r cynhyrchu a dosbarthu’r cyffur LSD yng Nghymru a thuhwnt.

    Tro yma, cawsom hanes ei yrfa gyda’r heddlu pan ymunodd a’r llu fel ‘cadet’ yn 1959 yn Hwlffordd i’r amser pan ymddeolodd ac erbyn hyn wedi cael dyrchafiad i ranc Uwch Arolygwr a gweithio yng Nghanolbarth Cymru. Cawsom ei hanes o’r dyddiau cynnar i amser ei ymddeoliad, yr ardaloedd bu’n plismona ynddynt ac wrth gwrs, ei amser fel ditectif. Mae’n amlwg, er ei fod wedi gweld erchyllderau yn ymwneud â’r swydd, fe wnaeth fwynhau ei yrfa a chyflwynodd yr hanes gyda llawer o hiwmor. Noson hwylus dros ben a diolchwyd iddo ar ran yr aelodau gan Wyn Evans.