Skip to content

CHWEFROR 2023

    Cynhaliwyd cyfarfod mis Chwefror, fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Estynnwyd croeso cynnes i’r siaradwr gwadd, sef Dai Rees, yn wreiddiol o San Cler ond yn awr yn byw yn Sir Benfro. Dyma’r ail dro i Dai Rees ddod i siarad â ni, y tro cyntaf yng nghyfarfod Tachwed 2021 pryd bu’n rhoi ei hanes ar ôl iddo ymddeol o’i yrfa ddisglair gyda’r heddlu.

    Tro yma, cawsom hanes ei yrfa gyda’r heddlu gan ganolbwyntio ar y ddwy flynedd a hanner bu’n rhan o’r tîm o pedwar ar ddeg, yn fechgyn a merched, a oedd yn ymchwilio i’r cynhyrchu a dosbarthu’r cyffur LSD yng Nghymru, Lloegr, yr Alban ac hefyd yn Ffrainc. Yr enw a roddwyd ar yr ymchwiliad hollol gyfrinachol yma oedd ‘Operation Julie’, sydd yn ran o hanes Cymru erbyn hyn.
    Roedd Dai wedi gweld effaith ofnadwy LSD â’i lygaid ei hun – pobl ifanc yn mynd yn wallgo ac un engraifft o hyn oedd pan laddwyd merch ifanc o Llanelli gan sipswn dan ddylanwad, fe yn meddwl mae anifail oedd hi!!

    Cymerodd LSD drosodd fel y cyffur pleser a gwelwyd llawer yn gorfod mynd i ysbytai meddwl a gwelwyd llawer achos o hunan laddiad.
    Yn 1976, penderfynwyd ceisio ymchwilio o ble oedd yr LSD yma’n dod, a dyma’r tîm a soniwyd am eisioes (a’i gynyddu i hanner cant yn ddiweddarach) yn mynd ati.
    Wrth ddyfal barhad y tîm, dilyn pob trywydd a chadw llygad ar eiddo am gyfnodau hir yn ardal Tregaron, Carno a llawer lle arall yn y DU, llwyddwyd i arestio 127 o bobl a charcharwyd dros 120 ohonynt. Roedd y bobl oedd tu ôl i’r cyfan yn bobl alluog dros ben, un yn wyddonydd, un arall yn feddyg a’u carcharwyd am 15 mlynedd.

    Ar ddiwedd y cyrch yma cafodd Dai ddyrchafiad fel Arolygwr yn gweithio yn Llanelli ac yn ddiweddarach ei sefydlu yn Brif Arolygwr yng nghanolbarth Cymru cyn iddo ymddeol ar ddiwedd gyrfa arbennig.

    Yng ngeiriau’r siaradwr, roedd yn amhosib crynhoi gwaith dwy flynedd a hanner mewn i awr o gyflwyniad ond fe gawsom amser diddorol iawn yn ei gwmni gan ddysgu llawer mwy am ‘Operation Julie’. Cyflwyniad arbennig a diolchwyd i Dai ar ran yr aelodau gan Trefor Evans.

    Derbyniwyd cais drwy lythyr am gyfraniad ariannol wrth Bwyllgor Apêl Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr a chytunwyd yn unfrydol i anfon £200.