Skip to content

Chwefror 2022

    Cynhaliwyd cyfarfod mis Chwefror ar nos Iau y 3ydd, fel arfer yn Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn.
    Estynnodd y Cadeirydd, Claude James, groeso cynnes i’r siaradwr gwadd, sef y Milfeddyg Robert Davies, yn wreiddiol o Efailwen ond yn awr yn byw yn Llanboidy.
    Dechreuodd ei ddiddordeb mewn milfeddygaeth ac anifeiliaid pan yn blentyn gartref ar y fferm, yn Pencerrig, Efailwen. Yn ystod ei amser yn Ysgol Beca ac wedyn yn Ysgol y Preseli, parhaodd yr uchelgais. Cafodd ei dderbyn i Goleg Wye yn Llundain i astudio amaethyddiaeth am ddwy flynedd ac wedyn i Brifysgol Bryste lle graddiodd mewn milfeddygiaeth yn 1994, ar ôl cwblhau’r cwrs mewn pedair blynedd yn lle’r pump arferol.

    Treuliodd blynyddoedd cyntaf ei yrfa gyda Milfeddyg o Hwlffordd, yn rhoi gwasanaeth i ffermydd gwaelod Sir Benfro. Ymunodd â thîm Milfeddygon Allen a’i Bartneriaid, Hendygwyn yn 2005, gan ei wneud yn bartner yn 2008.

    Cafwyd llawer o straeon difyr am ei brofiadau pan fu’n delio gydag anifeiliaid mawr a bach, ac hyd yn oed rhai egsotig fel zebras a llewod, pan yn ymweld â Fferm Folly. Hefyd, cafwyd ganddo ei safbwynt a’i farn bendant ar sefyllfa’r clefyd Dicau sy’n dal i fod yn broblem fawr i ffermydd Cymru a thu hwnt. Hyd nes i’r Llywodraeth edrych ar bob agwedd o’r broblem, yn cynnwys y moch-daear, bydd y Dicau yma am flynyddoedd eto gyda fawr obaith i’w waredu.

    Cafwyd noson a chyflwyniad gwych, yn llawn hiwmor a chwerthin, a diolchwyd i Robert ar ran yr aelodau, gan Mel Jenkins.