Skip to content

Chwefror 2019

    Un o’r aelodau, sef Huw Davies o Pwlltrap oedd yn gyfrifol am gyfarfod y mis hwn. Cyflwynodd y Cadeirydd, Claude James, Huw yn swyddogol gan ddweud ychydig o’i hanes.

    Cwis oedd gan Huw ar gyfer yr aelodau ac ar ôl rhannu pawb yn dimoedd, cafwyd ystod eang o gwestiynau yn ymwneud â phob math o bynciau.
    Enillwyr y noson oedd tîm Trefor Evans ac ef fu’n estyn gair o ddiolch i Huw am noson gartrefol a hwylus.