Skip to content

Chwefror 2017

    Y siaradwraig wâdd ym mis Chwefror oedd Meinir Eynon o Gwm Meils. Cyn ymddeol, roedd Meinir yn bennaeth Adran Tecstiliau yn Ysgol Dyffryn Taf.  Testun araith Meinir oedd ‘Clefyd y Siwgwr’ a ‘Chlefyd Addison’ – er mae’n well gan Meinir ddweud mai cyflwr yn hytrach na chlefyd yw’r ddau beth.

    Mae wedi bod yn dioddef ers diwedd yr 80’au a bu’n egluro fel yr oedd yn ymdopi â byw gyda’r ddau gyflwr. Mae’n berson positif iawn ac ni wnaeth dim ei rhwystro rhag cario ‘mlaen a’i gyrfa a’i diddordebau. Bu’n dangos fel mae triniaeth a’r ffordd mae hynny’n cael ei weinyddu, wedi newid er gwell yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
    Yr oedd yn bwnc difrifol, wedi ei gyflwyno’n ddiddorol iawn a diolchwyd iddi gan Islwyn Davies.