Skip to content

Chwefror 2016

    Yng nghyfarfod mis Chwefror, y siaradwr gwâdd oedd Eryl Richards o Bontiets – Syrfeiwr wrth ei alwedigaeth ac wedi dechrau’i yrfa gyda Chyngor Llanelli.
    Wedyn, bu am gyfnod yn gweithio yn y diwydiant glo caled cyn treulio rhai blynyddoedd yn syrfeio gwaith adeiladu Twnnel y Sianel – yn gwneud yn siwr, trwy fesurau cywir, bod y ddau dwnnel– un ochr Lloegr ac un ochr Ffrainc yn cwrdd a’i gilydd yn gywir!  Ar hyn o bryd mae’n gweithio, rhan amser, ar brosiect rheilffordd tan-ddaearol Llundain “Cross Rail” sy’n costio biliynnau o bunnoedd ac yn uno deugain o orsafoedd – llawer un yn newydd, o ganol i dde-ddwyrain Llundain.
    Trwy gyfrwng sleidiau gwelwyd maint y twnnelau  a’r peiriannau anferth syu’n cael eu defnyddio i gloddio’r twnnelau hynny.
    Bu’r noson yn agoriad llygad gyda’r pwnc wedi ei gyflwyno mewn ffordd ddiddorol a dealladwy.
    Diolchwyd i Eryl, ar ran yr Hoelion, gan Verian Williams.