Ein siaradwr gwâdd yng nghyfarfod Mis Chwefror oedd Ryland James o Pwlltrap. Yn enedigol o Hendygwyn ac wedi ymddeol ar ôl gyrfa fel Syrfeiwr Meintiau yn gweithio i wahanol gwmniau, er yn dal i wneud ychydig ar ei liwt ei hun.
Mae Ryland yn adnybyddus iawn yn y maes Ralio ceir. Mae wedi ac yn dal i gymeryd rhan fel llywiwr yn rhai o raliau mwyaf Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae hefyd wedi bod yn trefnu Raliau ar draws y byd a hynny yn golygu trefnu llwybr y Rali o’r dechrau i’r diwedd.
‘The Great South American Challenge 2013’ oedd canolbwynt ei gyflwyniad. Rali hen geir a cheir clasurol oedd hon ac ef oedd trefnydd y llwybr lawr drwy wledydd De America yn cynnwys Brasil, Ariannin a Patagonia. Nid canolbwyntio ar y rali ei hun na’r ceir a wnaeth ond drwy gyfrwng sleidiau fe ddilynodd y llwybr drwy’r gwledydd a dangos y golygfeydd hyfryd a welodd yn ogystal â’r golud a’r tlodi oedd yno. Mae Ryland wedi teithio’r byd yn cynnwys Ewrop, Awstralia, Seland Newydd a’r Amerig yn trefnu llwybrau ac yn cymeryd rhan yn y gamp.
Yn ychwanegol i’w gyflwyniad daeth Ryland a Het Geraint Lloyd i’r cyfarfod. Bu’n siarad â Geraint ar y radio a tynnwyd llun gyda’r aelodau i’w anfon i’r rhaglen erbyn y noson canlynol. Roedd yr het yn mynd ymlaen wedyn i Lowri, merch Ryland sy’n byw ym Mhontypridd. Cafwyd noson ddiddorol dros ben a diolchwyd iddo gan Mel Jenkins.
Aelodau’r gangen yng nghwmni Ryland James a Het Geraint Lloyd.