Skip to content

Chwefror a Mai 2014

    Diolch yn fawr iawn i Mr Mel Jenkins am drefnu ein Cinio blynyddol yng Nghaffi Beca; hefyd i Robert James a’i staff am ginio blasus dros ben. Croesawodd y Cadeirydd, Mr Wyn Evans, y gŵr gwâdd sef Mr Hywel Thomas, Brynderwen, Llanboidy. Cafwyd noson ddifyr yn gwrando arno’n sôn am y cyfnod a dreuliodd fel aelod o’r Gwarchodlu Cymraeg (Welsh Guards) yn Llundain yn y pumdegau; hefyd am rai o’r digwyddiadau doniol fel rhan o’i brofiad! Roedd yn braf i weld ei wraig, Fanw, yn bresennol yn y cyfarfod. Wedi gofyn a chael ateb i nifer o gwestiynau, diolchodd Wyn iddo ar ddiwedd y noson.

    Llun Cinio 2014

    Hywel a Fanw Thomas gyda swyddogion y gangen

     

    Mai 2014

    Ar y 1af o fis Mai, aeth aelodau cangen Hendygwyn ar eu Taith Ddirgel a drefnwyd gan y Swyddog Adloniant Mel Jenkins.  Teithiodd deunaw ar y bws gyda Clive.

    Cyrhaeddwyd y gyrchfan, sef TRISTAR, Ysgair Goch, Farmers gerllaw Llanbedr Pont Steffan ac yno yn ein disgwyl oedd Mr. Gwyn Williams, Perchennog y Cwmni.

    Mr. Gwyn Williams oedd yn gyrru’r ‘Goets Fawr’ar y rhaglen PORTHMYN ar y teledu, llynedd.  Roedd ganddo rhyw bymtheg o geffylau i’w dangos a chafwyd eu hanes ganddo; hefyd gwelwyd rhyw ddwsin o geirt neu gerbydau a’r Goets Fawr ei hun – a’r Goets Post Brenhinol oedd yn arfer teithio o Gaergybi i Lundain yn y ddeunawfed ganrif.

    Yna aeth Gwyn Williams a phawb i mewn i’w weithdy anferth lle mae’n cyflogi rhyw 35 o weithwyr i adeiladu cerbydau cario ceffylau (horse-boxes) – rhai ohonynt yn ddigon mawr i gario cymaint â dwsin o geffylau yr un.  Mae hefyd yn allforio llawer o gerbydau.

    Pleser oedd gweld y cyfan a chlywed y manylion.

    Diolchodd Wyn Evans, Cadeirydd y gangen, i Mr. Gwyn Williams am noson dda.

    Ar y ffordd adref, galwyd yn y Castell Gwyrdd yn Llanbed lle cafwyd pryd hyfryd o fwyd a chroeso Cymreig arbennig.  Bu’r cyfan yn fwynhad.

    Diolch yn fawr i Mel Jenkins am drefnu’r daith.